MAE’R Lolfa wedi cyhoeddi nofel gyntaf Ffion Emlyn, Pen-blwydd Hapus?

Mae’r stori yn un llawn troeon sy’n cychwyn gyda Martha y prif gymeriad yn gorwedd ar ei gwely gyda gwaed drosti a chyllell yn ei llaw.

Ond yng nghanol yr elfennau tywyll mae yna hiwmor cynnes.

Meddai Ffion:“Mae hiwmor yn bwysig iawn i mi ac mae yna ffin denau iawn rhwng y digrif a’r difrif.

“Dwi wedi profi tipyn o golled dros y blynyddoedd ac yn sicr fyswn i ddim wedi ymdopi efo’r cyfnodau anodd heb allu chwerthin.

“Ac er fy mod i eisiau creu teimlad cynnes, positif yn y nofel, mae yna elfennau o dywyllwch hefyd, gan gynnwys rheolaeth o fewn perthynas.

“Roedd graddfeydd gwahanol y rheolaeth yma yn rhywbeth oeddwn i eisiau ei archwilio yn y cymeriadau.”

Mae’r nofel yn dilyn stori Martha, sy’n derbyn anrheg arbennig gan ei rhieni ar ei phen-blwydd yn 32 mlwydd oed.

Mae’r anrheg yma yn ei gyrru hi ar daith fydd yn newid ei bywyd am byth.

“Mae’r syniad gen i ers tipyn o flynyddoedd, sef y syniad o rywun yn mynd ar daith i chwilio am rywbeth, gyda phobl yn ymuno â hi nes yn y diwedd bod yna griw mawr ar y daith!

“Roedd y syniad o rywbeth mawr yn digwydd ar ben-blwydd hefyd yn apelio gan fod yna bwysau ar bobl i fwynhau a dathlu pen-blwydd,” ychwanegodd Ffion Emlyn.

Mae Ffion Emlyn yn gynhyrchydd gyda’r BBC ac mae hi wedi gweithio fel golygydd sgript a chynhyrchydd ar nifer o operâu sebon, fel Eileen/Rhydeglwys, Pobol y Cwm, Casualty a nifer o ddramâu a chomedïau radio, yn ogystal â fel cynhyrchydd rhaglenni cyffredinol i Radio Cymru.

Meddai: “Mi ydw i wedi sgwennu erioed, deialog fwyaf ar gyfer dramâu.

“Dwi’n lwcus iawn – ges i fy magu ar aelwyd lle oedd ysgrifennu creadigol yn digwydd o fy nghwmpas i bron bob dydd.

“Mi oedd Mam yn sgwennu pob math o bethau erioed – cerddi, straeon a sgetsys ar gyfer cymdeithas leol y pentref ac wedyn mi fyswn ni, plant y pentref, yn actio’r sgetsys yn festri’r capel i’r gymuned.

“Mi oedd yn lot o hwyl o be dwi'n cofio.”

Mae Pen-blwydd Hapus? gan Ffion Emlyn ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).